Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 21:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y mae pob tor-cyfraith fel cleddyf daufiniog;nid oes iachâd o'i archoll.

4. Bydd dychryn a rhyfyg yn anrheithio cyfoeth;felly yr anrheithir tŷ'r balch.

5. Daw deisyfiad o enau'r tlawd i glustiau Duw,a daw ei ddyfarniad ef yn ôl yn ddi-oed.

6. Y mae rhywun sy'n casáu cerydd yn dilyn camre pechadur,ond y mae'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn edifarhau o'i galon.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 21