Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 21:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Mewn cynulliad ceisir gair gan rywun call,a dwys ystyrir yr hyn a ddywed.

18. I'r ffŵl y mae doethineb fel tŷ a ddiflannodd,a geiriau diystyr yw gwybodaeth y diddeall.

19. Llyffetheiriau am ei draed yw addysg i'r anwybodus;y mae fel gefynnau ar ei law dde.

20. Y mae ffŵl yn chwerthin ar uchaf ei lais,ond lled-wenu'n dawel y mae'r call.

21. Y mae addysg i'r deallus fel tlws aurac fel breichled ar ei fraich dde.

22. Y mae ffŵl yn brasgamu i dŷ,ond oedi'n wylaidd o'i flaen y mae'r profiadol.

23. Y mae ynfytyn yn sbïo i mewn i dŷ o drothwy'r drws,ond sefyll oddi allan y bydd y sawl a gafodd ei hyfforddi.

24. Diffyg addysg mewn rhywun yw gwrando wrth ddrws,a gwarth annioddefol fyddai i'r deallus.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 21