Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 21:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Y mae ymadrodd y ffôl fel baich ar gefn teithiwr,ond ar wefusau'r deallus ceir hyfrydwch.

17. Mewn cynulliad ceisir gair gan rywun call,a dwys ystyrir yr hyn a ddywed.

18. I'r ffŵl y mae doethineb fel tŷ a ddiflannodd,a geiriau diystyr yw gwybodaeth y diddeall.

19. Llyffetheiriau am ei draed yw addysg i'r anwybodus;y mae fel gefynnau ar ei law dde.

20. Y mae ffŵl yn chwerthin ar uchaf ei lais,ond lled-wenu'n dawel y mae'r call.

21. Y mae addysg i'r deallus fel tlws aurac fel breichled ar ei fraich dde.

22. Y mae ffŵl yn brasgamu i dŷ,ond oedi'n wylaidd o'i flaen y mae'r profiadol.

23. Y mae ynfytyn yn sbïo i mewn i dŷ o drothwy'r drws,ond sefyll oddi allan y bydd y sawl a gafodd ei hyfforddi.

24. Diffyg addysg mewn rhywun yw gwrando wrth ddrws,a gwarth annioddefol fyddai i'r deallus.

25. Gwefusau pobl eraill fydd yn traethu'r pethau hyn,ond bydd geiriau'r deallus yn cael eu pwyso mewn clorian.

26. Y mae ffyliaid yn siarad yn lle meddwl,ond y mae meddwl y doeth yn eu siarad.

27. Pan fydd yr annuwiol yn melltithio'r gwrthwynebwr,y mae'n ei felltithio'i hunan.

28. Y mae clepgi'n pardduo'i gymeriad ei hun,ac fe'i caseir yn ei gymdogaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 21