1. A bechaist, fy mab? Paid â phechu rhagor,ond deisyf faddeuant am dy bechodau blaenorol.
2. Ffo oddi wrth bechod fel o olwg sarff,oherwydd os ei'n agos ato, fe'th fratha.Y mae ei ddannedd fel dannedd llew,a gallant ddifa bywyd rhywun.
3. Y mae pob tor-cyfraith fel cleddyf daufiniog;nid oes iachâd o'i archoll.
4. Bydd dychryn a rhyfyg yn anrheithio cyfoeth;felly yr anrheithir tŷ'r balch.
5. Daw deisyfiad o enau'r tlawd i glustiau Duw,a daw ei ddyfarniad ef yn ôl yn ddi-oed.
6. Y mae rhywun sy'n casáu cerydd yn dilyn camre pechadur,ond y mae'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn edifarhau o'i galon.