Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 19:11-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Y ffôl fydd mewn gwewyr am y straeon a daenir amdano,fel gwraig wrth esgor ar blentyn.

12. Fel saeth a lynodd ym morddwyd rhywun,felly y mae straeon ym mol y ffôl.

13. Hola gyfaill; dichon na wnaeth ddim,ac os gwnaeth, dichon nas gwna eto.

14. Hola dy gymydog; dichon na ddywedodd ddim,ac os dywedodd, dichon nas dywed eilwaith.

15. Hola gyfaill; oherwydd yn fynych enllib a gafodd;paid â choelio pob clep a glywi.

16. Gall rhywun lithro'n anfwriadol;pwy sydd na phechodd â'i dafod?

17. Hola dy gymydog cyn ei fygwth;rho ei chyfle i gyfraith y Goruchaf.

20. Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb,a chynnwys pob doethineb yw cyflawni'r gyfraith.

22. Nid doethineb yw gwybodaeth o ddrygioni,ac nis ceir lle cyfrifir cyngor pechaduriaid yn synnwyr.

23. Y mae clyfrwch sydd eto'n ffiaidd,a cheir un ffôl nad yw ond yn brin o ddoethineb.

24. Gwell yw bod yn brin o ddeall, ac ofni Duw,na rhagori mewn synnwyr a throseddu'r gyfraith.

25. Y mae clyfrwch cywrain sydd eto'n anghyfiawn;a cheir rhywun sy'n ymwrthod â ffafr er mwyn amlygu cyfiawnder.

26. Y mae ambell adyn sy'n gwargrymu mewn dillad galar,a'i galon yn llawn twyll,

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 19