Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 12:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Pwy sy'n tosturio wrth swynwr-nadredd a frathwyd,neu wrth bawb sy'n ymwneud ag anifeiliaid gwylltion?

14. Felly gyda'r sawl sy'n closio at bechadurac yn ymgolli yn ei bechodau ef.

15. Am awr yr erys ef gyda thi,ac os llithro a wnei, ni lŷn wrthyt.

16. Y mae gwefusau'r gelyn yn diferu melyster,ond yn ei galon y mae'n cynllwynio i'th fwrw i bydew.Y mae llygaid y gelyn yn colli dagrau,ond os caiff gyfle, ni fydd tywallt gwaed yn ddigon ganddo.

17. Os daw drygfyd arnat, cei ei fod ef yno o'th flaen,yn cymryd arno dy helpu ond yn baglu dy droed.

18. Bydd yn ysgwyd ei ben ac yn curo'i ddwylo,yn clebran llawer ac yn newid ei wedd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 12