Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 12:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wrth wneud cymwynas, ystyria i bwy yr wyt yn ei gwneud,a chei ddiolch am dy gymwynasau.

2. Gwna dda i'r duwiol, ac fe gei dy dalu'n ôl,os nad ganddo ef, yna gan y Goruchaf.

3. Ni ddaw daioni i'r sawl sy'n dal ati i wneud drygioni,nac i'r sawl sy'n gwrthod rhoi elusen.

4. Rho i'r duwiol, ond paid â chynorthwyo'r pechadur.

5. Gwna dda i'r gostyngedig, a phaid â rhoi i'r annuwiol.Atal iddo ei fara, a phaid â rhoi iddo,rhag iddo drwyddo fynd yn feistr arnat.Oherwydd cei ganddo ddwywaith cymaint o ddrwg yn dâlam yr holl ddaioni a wnaethost iddo ef.

6. Y mae'r Goruchaf yntau'n casáu pechaduriaid,ac yn talu i'r annuwiol y gosb a haeddant.

7. Rho i'r da, ond paid â chynorthwyo'r pechadurus.

8. Nid mewn hawddfyd y cosbir cyfaill;ac mewn adfyd ni fydd gelyn yn ymguddio.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 12