Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae llawer teyrn wedi gorfod eistedd ar y llawr,a rhywun disylw wedi gwisgo diadem.

6. Daeth llywodraethwyr lawer i waradwydd mawr,a thraddodwyd rhai o fri i ddwylo pobl eraill.

7. Paid â gweld bai cyn iti chwilio i'r achos;ystyria yn gyntaf, ac yna cerydda.

8. Paid ag ateb cyn iti wrando,a phaid â thorri ar draws neb ar ganol ei sgwrs.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11