Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:4-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Paid ag ymfalchïo yn y dillad a wisgi,nac ymddyrchafu pan ddaw anrhydedd i'th ran.Oherwydd rhyfeddol yw gweithredoedd yr Arglwydd;cuddiedig yw ei weithredoedd o olwg pobl.

5. Y mae llawer teyrn wedi gorfod eistedd ar y llawr,a rhywun disylw wedi gwisgo diadem.

6. Daeth llywodraethwyr lawer i waradwydd mawr,a thraddodwyd rhai o fri i ddwylo pobl eraill.

7. Paid â gweld bai cyn iti chwilio i'r achos;ystyria yn gyntaf, ac yna cerydda.

8. Paid ag ateb cyn iti wrando,a phaid â thorri ar draws neb ar ganol ei sgwrs.

9. Paid ag ymladd achos nad oes a wnelo â thi,a phaid ag eistedd i farnu gyda phechaduriaid.

10. Fy mab, paid â'th feichio dy hun â gofalon lawer;o'u hamlhau, ni fyddi'n ddi-gosb;o redeg ar eu hôl, ni elli eu dal;o redeg rhagddynt, ni elli ddianc.

11. Gall rhywun lafurio ac ymboeni a brysio,a bod yr un mor bell yn ôl wedi'r cyfan.

12. Gall rhywunn fod yn araf ac mewn angen am help llaw,yn ddiffygiol mewn nerth ac yn llawn tlodi;eto y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych arno er ei les,yn ei godi allan o'i ddistadledd,

13. ac yn dyrchafu ei ben ef,nes bod llawer yn rhyfeddu ato.

14. Llwydd ac aflwydd, bywyd a marwolaeth,tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y deuant i gyd.

17. Y mae rhodd yr Arglwydd yn para'n eiddo i'r rhai duwiol,a'i gymeradwyaeth yn hyrwyddo'u taith am byth.

18. Gall rhywun ymgyfoethogi trwy ofalu a chynilo,a dyna'r cwbl a gaiff yn gyflog.

19. Pan ddywed, “Yr wyf wedi ennill fy ngorffwys;bellach caf fyw ar fy meddiannau”,nid yw'n gwybod faint o amser sydd i'w dreuliocyn marw a gadael ei eiddo i eraill.

20. Saf wrth dy gyfamod a gweithreda'n unol ag ef;heneiddia wrth dy waith.

21. Paid â rhyfeddu at weithredoedd pechadur;cred yr Arglwydd a dal ati yn dy lafur,oherwydd peth hawdd yng ngolwg yr Arglwyddyw gwneud y tlawd yn gyfoethog yn ddisymwth ac yn ddiymdroi.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11