Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:28-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Paid â galw neb, cyn iddo farw, yn wynfydedig;wrth ei blant yr adwaenir rhywun.

29. Paid â dod â phawb i'th dŷ,oherwydd aml yw cynllwynion y twyllodrus.

30. Fel petrisen hudo mewn cawell y mae calon y balch,neu fel gwyliwr cudd a'i fryd ar faglu.

31. Y mae'n cynllwynio i droi llwydd yn aflwydd,ac i ddangos diffyg yn y cyflawniadau gorau.

32. Gall gwreichionen fach gynnau llwyth o lo;ac y mae'r pechadurus yn cynllwynio i dywallt gwaed.

33. Gochel rhag drwgweithredwr sy'n dyfeisio drwg yn dy erbyn,rhag iddo dy gael i fai a bery am byth.

34. Derbyn ddieithryn i'th dŷ, a bydd yn tarfu arnat a'th gyffroi,a'th ddieithrio oddi wrth dy bobl dy hun.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11