Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:25-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Yn nydd llwydd anghofir aflwydd,ac yn nydd aflwydd ni chofir am lwydd.

26. Peth hawdd i'r Arglwydd, pan fydd rhywun farw,yw talu iddo yn ôl ei ymddygiad.

27. Y mae awr o adfyd yn difa'r cof am foethusrwydd,a diwedd rhywun sy'n datguddio'i weithredoedd.

28. Paid â galw neb, cyn iddo farw, yn wynfydedig;wrth ei blant yr adwaenir rhywun.

29. Paid â dod â phawb i'th dŷ,oherwydd aml yw cynllwynion y twyllodrus.

30. Fel petrisen hudo mewn cawell y mae calon y balch,neu fel gwyliwr cudd a'i fryd ar faglu.

31. Y mae'n cynllwynio i droi llwydd yn aflwydd,ac i ddangos diffyg yn y cyflawniadau gorau.

32. Gall gwreichionen fach gynnau llwyth o lo;ac y mae'r pechadurus yn cynllwynio i dywallt gwaed.

33. Gochel rhag drwgweithredwr sy'n dyfeisio drwg yn dy erbyn,rhag iddo dy gael i fai a bery am byth.

34. Derbyn ddieithryn i'th dŷ, a bydd yn tarfu arnat a'th gyffroi,a'th ddieithrio oddi wrth dy bobl dy hun.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11