Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Bendith yr Arglwydd yw cyflog y duwiol;bendith a ddwg ef i flagur mewn munud awr.

23. Paid â dweud, “Pa angen sydd amdanaf fi?Pa lwydd a all ddod imi bellach?”

24. A phaid â dweud, “Yr wyf yn hunanddigonol;pa aflwydd a all ddod imi bellach?”

25. Yn nydd llwydd anghofir aflwydd,ac yn nydd aflwydd ni chofir am lwydd.

26. Peth hawdd i'r Arglwydd, pan fydd rhywun farw,yw talu iddo yn ôl ei ymddygiad.

27. Y mae awr o adfyd yn difa'r cof am foethusrwydd,a diwedd rhywun sy'n datguddio'i weithredoedd.

28. Paid â galw neb, cyn iddo farw, yn wynfydedig;wrth ei blant yr adwaenir rhywun.

29. Paid â dod â phawb i'th dŷ,oherwydd aml yw cynllwynion y twyllodrus.

30. Fel petrisen hudo mewn cawell y mae calon y balch,neu fel gwyliwr cudd a'i fryd ar faglu.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11