Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Bendith yr Arglwydd yw cyflog y duwiol;bendith a ddwg ef i flagur mewn munud awr.

23. Paid â dweud, “Pa angen sydd amdanaf fi?Pa lwydd a all ddod imi bellach?”

24. A phaid â dweud, “Yr wyf yn hunanddigonol;pa aflwydd a all ddod imi bellach?”

25. Yn nydd llwydd anghofir aflwydd,ac yn nydd aflwydd ni chofir am lwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11