Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Gall rhywunn fod yn araf ac mewn angen am help llaw,yn ddiffygiol mewn nerth ac yn llawn tlodi;eto y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych arno er ei les,yn ei godi allan o'i ddistadledd,

13. ac yn dyrchafu ei ben ef,nes bod llawer yn rhyfeddu ato.

14. Llwydd ac aflwydd, bywyd a marwolaeth,tlodi a chyfoeth, oddi wrth yr Arglwydd y deuant i gyd.

17. Y mae rhodd yr Arglwydd yn para'n eiddo i'r rhai duwiol,a'i gymeradwyaeth yn hyrwyddo'u taith am byth.

18. Gall rhywun ymgyfoethogi trwy ofalu a chynilo,a dyna'r cwbl a gaiff yn gyflog.

19. Pan ddywed, “Yr wyf wedi ennill fy ngorffwys;bellach caf fyw ar fy meddiannau”,nid yw'n gwybod faint o amser sydd i'w dreuliocyn marw a gadael ei eiddo i eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11