Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 11:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae doethineb y gostyngedig yn dyrchafu ei benac yn ei osod i eistedd yng nghanol mawrion.

2. Paid â chanmol neb ar gyfrif ei harddwch,na ffieiddio neb ar gyfrif ei wedd.

3. Ymhlith ehediaid un fechan yw'r wenynen,ond ei chynnyrch hi yw'r pennaf o bopeth melys.

4. Paid ag ymfalchïo yn y dillad a wisgi,nac ymddyrchafu pan ddaw anrhydedd i'th ran.Oherwydd rhyfeddol yw gweithredoedd yr Arglwydd;cuddiedig yw ei weithredoedd o olwg pobl.

5. Y mae llawer teyrn wedi gorfod eistedd ar y llawr,a rhywun disylw wedi gwisgo diadem.

6. Daeth llywodraethwyr lawer i waradwydd mawr,a thraddodwyd rhai o fri i ddwylo pobl eraill.

7. Paid â gweld bai cyn iti chwilio i'r achos;ystyria yn gyntaf, ac yna cerydda.

8. Paid ag ateb cyn iti wrando,a phaid â thorri ar draws neb ar ganol ei sgwrs.

9. Paid ag ymladd achos nad oes a wnelo â thi,a phaid ag eistedd i farnu gyda phechaduriaid.

10. Fy mab, paid â'th feichio dy hun â gofalon lawer;o'u hamlhau, ni fyddi'n ddi-gosb;o redeg ar eu hôl, ni elli eu dal;o redeg rhagddynt, ni elli ddianc.

11. Gall rhywun lafurio ac ymboeni a brysio,a bod yr un mor bell yn ôl wedi'r cyfan.

12. Gall rhywunn fod yn araf ac mewn angen am help llaw,yn ddiffygiol mewn nerth ac yn llawn tlodi;eto y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych arno er ei les,yn ei godi allan o'i ddistadledd,

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 11