6. Paid â digio wrth dy gymydog am bob rhyw gam,a phaid â gwneud dim trwy weithredoedd rhyfygus.
7. Casbeth yng ngolwg yr Arglwydd a phobl yw balchder,a gwrthun gan y naill a'r llall yw anghyfiawnder.
8. Symudir y frenhiniaeth o'r naill genedl i'r llallo achos anghyfiawnder a rhyfyg ac ariangarwch.
9. Pam yr ymfalchïa llwch a lludw?Oherwydd yswyd ei gorff gan bryfed, ac yntau'n fyw.
10. Y mae afiechyd hir yn gwawdio gallu'r meddyg;gall dyn fod yn frenin heddiw ac yn farw yfory.
11. Oherwydd pan fydd rhywun farw,ymlusgiaid a bwystfilod a phryfed fydd ei etifeddiaeth.
12. Dechrau balchder rhywun yw ymadael â'r Arglwydd,a'i galon wedi cefnu ar ei Greawdwr.
13. Oherwydd pechod yw dechrau balchder,ac y mae'r sawl sy'n glynu wrtho yn tywallt allan ffieidd-dra.Am hynny achosodd yr Arglwydd drallodion rhyfeddol,a llwyr ddinistrio'r rhai balch.
14. Dymchwelodd yr Arglwydd orseddau tywysogion,a gosod rhai addfwyn i eistedd yn eu lle.
15. Diwreiddiodd yr Arglwydd genhedloedd,a phlannu rhai gostyngedig yn eu lle.
16. Dinistriodd yr Arglwydd diroedd cenhedloedd,a'u difa hyd at seiliau'r ddaear.