Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 10:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Bydd brenin diaddysg yn ddinistr i'w bobl;ond cyfanheddir dinas trwy ddeall ei llywodraethwyr.

4. Yn llaw'r Arglwydd y mae awdurdod ar y ddaear,ac ef, yn yr amser priodol, fydd yn gosod un cymwys yn ben arni.

5. Yn llaw'r Arglwydd y mae ffyniant pawb,ac ef sy'n gosod ei anrhydedd ar berson y deddfwr.

6. Paid â digio wrth dy gymydog am bob rhyw gam,a phaid â gwneud dim trwy weithredoedd rhyfygus.

7. Casbeth yng ngolwg yr Arglwydd a phobl yw balchder,a gwrthun gan y naill a'r llall yw anghyfiawnder.

8. Symudir y frenhiniaeth o'r naill genedl i'r llallo achos anghyfiawnder a rhyfyg ac ariangarwch.

9. Pam yr ymfalchïa llwch a lludw?Oherwydd yswyd ei gorff gan bryfed, ac yntau'n fyw.

10. Y mae afiechyd hir yn gwawdio gallu'r meddyg;gall dyn fod yn frenin heddiw ac yn farw yfory.

11. Oherwydd pan fydd rhywun farw,ymlusgiaid a bwystfilod a phryfed fydd ei etifeddiaeth.

12. Dechrau balchder rhywun yw ymadael â'r Arglwydd,a'i galon wedi cefnu ar ei Greawdwr.

13. Oherwydd pechod yw dechrau balchder,ac y mae'r sawl sy'n glynu wrtho yn tywallt allan ffieidd-dra.Am hynny achosodd yr Arglwydd drallodion rhyfeddol,a llwyr ddinistrio'r rhai balch.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 10