Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 10:23-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Nid yw'n gyfiawn amharchu'r tlawd sy'n ddeallus,ac nid yw'n weddus anrhydeddu'r pechadurus.

24. Anrhydeddir y gŵr mawr, y barnwr, a'r llywodraethwr;ond nid yw'r un ohonynt mor fawr â hwnnw sy'n ofni'r Arglwydd.

25. Caiff caethwas doeth rai rhydd i weini arno,ac ni bydd neb call yn cwyno.

26. Paid â bod yn rhy ddoeth i wneud dy waith,na'th fawrhau dy hun pan yw'n gyfyng arnat.

27. Gwell yw gweithio, a bod ar ben dy ddigon o bopeth,na'th fawrhau dy hun a bod heb fara.

28. Fy mab, gogonedda dy hun mewn gwyleidd-dra,ac anrhydedda dy hun yn ôl dy deilyngdod.

29. Pwy a gyfiawnha'r sawl sy'n pechu yn ei erbyn ei hun?A phwy a anrhydedda'r sawl sy'n ei amharchu ei hun?

30. Anrhydeddir y tlawd ar gyfrif ei wybodaeth,a'r cyfoethog ar gyfrif ei gyfoeth.

31. Os cafodd rhywun anrhydedd yn ei dlodi, pa faint mwy felly yn ei gyfoeth!Os bu heb anrhydedd yn ei gyfoeth, pa faint mwy felly yn ei dlodi!

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 10