Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 1:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Y mae doethineb wedi ei chreu o flaen pob peth,a phwyll dealltwriaeth yn bod erioed.

6. I bwy y datguddiwyd gwreiddyn doethineb?Pwy sy'n deall ei dyfeisiau hi?

8. Y mae Un sy'n ddoeth, ac i'w ofni'n ddirfawr,Un sy'n eistedd ar ei orsedd—

9. ef yw'r Arglwydd, ac ef a greodd ddoethineb;ef a'i canfu hi, a'i dosrannu,a'i harllwys ar ei holl weithredoedd.

10. I bob un y mae cyfran ohoni, yn ôl ei roddiad ef,ond rhoddodd yn hael ohoni i'r rhai sy'n ei garu.

11. Y mae ofn yr Arglwydd yn achos anrhydedd ac ymffrost,llawenydd a thorch gorfoledd.

12. Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon,yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 1