Hen Destament

Testament Newydd

Doethineb Solomon 4:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yn ei gŵydd fe'i hefelychir,a hiraethir amdani yn ei habsen;ac yn yr oes a ddaw, bydd yn gorymdeithio â thorch am ei phen,wedi mynd â'r gamp ac ennill gwobr anllygredigaeth.

3. Ond ni bydd eu hepil toreithiog o les i'r annuwiol,am na all yr un eginyn bastardaidd fwrw gwreiddyn yn ddwfnna daearu'n gadarn.

4. Oherwydd er i'w ganghennau flaguro am dymor,gan nad oes iddo gadernid daear fe'i hysgydwir gan y storma'i ddiwreiddio gan rym y gwyntoedd.

5. Rhwygir ei frigau i ffwrdd cyn dod i'w llawn dwf;bydd ei ffrwyth yn ddiwerth ac anaeddfed i'w fwyta,heb fod yn dda i ddim yn y byd.

6. Oherwydd bydd plant a genhedlir o gydorwedd anghyfreithlonyn dystiolaeth i bechod eu rhieni yn nydd yr archwiliad arnynt.

7. Ond bydd y cyfiawn, er iddo farw'n gynnar, yn gorffwys mewn hedd.

8. Nid hirhoedledd sy'n rhoi ei werth i henaint,ac nid amlder blynyddoedd yw ei fesur.

9. Nage, dealltwriaeth sy'n rhoi urddas penwynni i bobl,a bywyd difrycheulyd a ddyry iddynt aeddfedrwydd henaint.

10. Yr oedd gŵr yr ymhyfrydodd Duw ynddo a'i garu;am ei fod yn byw ymhlith pechaduriaid, fe'i cymerodd ef ato'i hun.

11. Fe'i cipiodd ymaith rhag i ddrygioni wyrdroi ei ddeallneu i ddichell dwyllo'i enaid.

12. Oherwydd y mae hud oferedd yn bwrw daioni i'r cysgod,a chwirligwgan chwant yn troi pen y diniwed.

13. Yng nghyflawniad oes fer cwblhaodd hir flynyddoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Doethineb Solomon 4