14. Yr oedd ei enaid wrth fodd yr Arglwydd;dyna pam y brysiodd ef i'w dynnu o ganol drygioni.Ond er iddynt weld, ni ddeallodd y cenhedloeddy fath ddigwyddiad, na dwyn i ystyriaeth
15. fod gras a thrugaredd gan Dduw i'w etholedigion,a chymorth amserol i'w saint.
16. Bydd y cyfiawn a fu farw yn condemnio'r annuwiol sy'n dal i fyw,a'r ifanc, a ddaeth i ddiwedd cynnar, yn condemnio hirhoedledd yr anghyfiawn.
17. Y mae'r rhieni'n gweld diwedd y doeth,heb fod ganddynt syniad am fwriadau'r Arglwydd amdano,a'i ddiben wrth ei ddwyn i ddiogelwch.
18. Fe'i gwelant ac fe'i dirmygant;ond bydd yr Arglwydd yn chwerthin am eu pen hwy.A'r peth nesaf fydd eu cael yn gelanedd di-barch,ac yn warth ymhlith y meirw am byth,
19. am y bydd ef yn eu lluchio ar eu hyd yn gyrff mud,a'u dymchwel yn llwyr,a'u llosgi'n llwch;poenedigaeth fydd eu rhan,a derfydd y cof amdanynt.
20. Ar ddydd cyfrif eu pechodau dynesant fel llyfrgwn,am y collfernir hwy yn eu hwyneb gan eu troseddau eu hunain.