Hen Destament

Testament Newydd

Doethineb Solomon 3:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Bydd y rhai sy'n ymddiried ynddo ef yn deall y gwir,a'r ffyddloniaid yn gweini arno mewn cariad,oherwydd gras a thrugaredd yw rhan ei etholedigion.

10. Ond bydd yr annuwiol yn derbyn eu haeddiant am eu cynlluniau,am iddynt anwybyddu'r cyfiawn ac ymbellhau oddi wrth yr Arglwydd.

11. Druan o'r sawl sy'n diystyru doethineb ac addysg;ofer yw eu gobaith, eu llafur yn ddi-fudd,eu gweithredoedd yn ddi-les,

12. eu gwragedd yn benchwiban,eu plant yn llawn drygioni,a'u hiliogaeth dan felltith.

13. Gwyn ei byd y wraig ddi-blant, nas halogwyd,ac na fu'n cydorwedd â neb yn anghyfreithlon.Fe gaiff hi ffrwyth, pan ddaw Duw i farnu.

14. Gwyn ei fyd yr eunuch, na throseddodd mewn gweithred,ac na chynlluniodd ddrwg yn erbyn yr Arglwydd;oherwydd fe roddir iddo ddethol ras ei ffydd,a chyfran fwy dymunol yn nheml yr Arglwydd.

15. Oherwydd y mae ffrwyth ymdrechion gonest yn ogoneddus,a'r gwreiddyn, sef dealltwriaeth, yn ffynnu'n ddi-ffael.

16. Ond ni ddaw plant godinebwyr i'w llawn dwf;dilëir had cydorwedd anghyfreithlon.

17. Os digwydd iddynt fyw'n hir, fe'u hystyrir yn ddiddim,ac yn eu dyddiau olaf ni bydd parch i'w henaint.

18. Os yn gynnar y daw eu diwedd, ni bydd ganddynt obaithna chysur ar ddydd y ddedfryd,

19. oherwydd i genhedlaeth anghyfiawn caled fydd y diwedd.

Darllenwch bennod gyflawn Doethineb Solomon 3