1. Ond y mae eneidiau'r cyfiawn yn llaw Duw,ac ni ddaw poenedigaeth byth i'w rhan.
2. Yn llygaid y rhai ynfyd, y maent fel pe baent wedi marw;ystyriwyd eu hymadawiad yn drychineb,
3. a'u mynediad oddi wrthym yn ddistryw;ond y maent mewn hedd.
4. Oherwydd er i gosb ddod arnynt yng ngolwg pobl,digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb;
5. ac er eu disgyblu ychydig, mawr fydd eu hennill,am fod Duw wedi eu profia'u cael yn deilwng ohono ef ei hun.
6. Fel aur mewn tawddlestr y profodd hwy,ac fel poethoffrwm yr aberth y derbyniodd hwy.
7. Pan ddaw Duw i ymweld â hwy cyneuant yn wenfflam;fel gwreichion mewn sofl fe redant drwy'r byd.
8. Cânt lywodraethu ar genhedloedd a rheoli ar bobloedd,a'r Arglwydd fydd eu brenin am byth.