Hen Destament

Testament Newydd

Doethineb Solomon 3:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ond y mae eneidiau'r cyfiawn yn llaw Duw,ac ni ddaw poenedigaeth byth i'w rhan.

2. Yn llygaid y rhai ynfyd, y maent fel pe baent wedi marw;ystyriwyd eu hymadawiad yn drychineb,

3. a'u mynediad oddi wrthym yn ddistryw;ond y maent mewn hedd.

4. Oherwydd er i gosb ddod arnynt yng ngolwg pobl,digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb;

5. ac er eu disgyblu ychydig, mawr fydd eu hennill,am fod Duw wedi eu profia'u cael yn deilwng ohono ef ei hun.

6. Fel aur mewn tawddlestr y profodd hwy,ac fel poethoffrwm yr aberth y derbyniodd hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Doethineb Solomon 3