Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 9:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. yn galw ar y rhai sy'n mynd heibioac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:

16. “Dewch yma, bob un sy'n wirion.”Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,

17. “Y mae dŵr lladrad yn felys,a bara wedi ei ddwyn yn flasus.”

18. Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno,ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 9