Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 9:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau,ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.

12. Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw;ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef.

13. Y mae gwraig ffôl yn benchwiban,yn ddiddeall, heb wybod dim.

14. Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,ar fainc yn uchelfannau'r ddinas,

15. yn galw ar y rhai sy'n mynd heibioac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:

16. “Dewch yma, bob un sy'n wirion.”Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,

17. “Y mae dŵr lladrad yn felys,a bara wedi ei ddwyn yn flasus.”

18. Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno,ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 9