1. Y mae doethineb wedi adeiladu ei thŷ,ac yn naddu ei saith golofn;
2. y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwina hulio ei bwrdd.
3. Anfonodd allan ei llancesau,ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4. “Dewch yma, bob un sy'n wirion.”Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5. “Dewch, bwytewch gyda mi,ac yfwch y gwin a gymysgais.
6. Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw;rhodiwch yn ffordd deall.”
7. Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr,a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8. Paid â cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasáu;cerydda'r doeth, ac fe'th gâr di.
9. Rho gyngor i'r doeth, ac fe â'n ddoethach;dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb,ac adnabod y Sanctaidd yw deall.