Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 8:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.

25. Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,

26. cyn iddo greu tir a meysydd,ac o flaen pridd y ddaear.

27. Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lleac yn rhoi cylch dros y dyfnder,

28. pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchbenac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,

29. pan oedd yn gosod terfyn i'r môr,rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air,a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.

30. Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson,yn hyfrydwch iddo beunydd,yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,

31. yn ymddifyrru yn y byd a greodd,ac yn ymhyfrydu mewn pobl.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 8