1. Onid yw doethineb yn galw,a deall yn codi ei lais?
2. Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd,ac yn ymyl y croesffyrdd;
3. Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref,wrth y fynedfa at y pyrth:
4. “Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw,ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais.
5. Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter,a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.
6. Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr,a daw geiriau gonest o'm genau.
7. Traetha fy nhafod y gwir,ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.
8. Y mae fy holl eiriau yn gywir;nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws.
9. Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus,ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.
10. Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian,oherwydd gwell yw nag aur.
11. Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau,ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.
12. Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.
13. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,ffordd drygioni a geiriau traws.
14. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,a chennyf fi y mae deall a gallu.
15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.
16. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.
17. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.
18. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,digonedd o olud a chyfiawnder.
19. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,a'm cynnyrch yn well nag arian pur.