Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 6:25-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Paid â chwennych ei phrydferthwch,a phaid â gadael i'w chiledrychiad dy ddal;

26. oherwydd gellir cael putain am bris torth,ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach.

27. A all dyn gofleidio tân yn ei fynwesheb losgi ei ddillad?

28. A all dyn gerdded ar farworheb losgi ei draed?

29. Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog;ni all unrhyw un gyffwrdd â hi heb gosb.

30. Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyni foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog?

31. Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n ôl seithwaith,a rhoi'r cyfan sydd ganddo.

32. Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr,ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;

33. caiff niwed ac amarch,ac ni ddilëir ei warth.

34. Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gŵr priod,ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;

35. ni fyn dderbyn iawndal,ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 6