16. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,saith peth sy'n ffiaidd ganddo:
17. llygaid balch, tafod ffals,dwylo'n tywallt gwaed dieuog,
18. calon yn cynllunio oferedd,traed yn prysuro i wneud drwg,
19. gau dyst yn dweud celwydd,ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.
20. Fy mab, cadw orchymyn dy dad;paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;
21. clyma hwy'n wastad yn dy galon,rhwym hwy am dy wddf.
22. Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,a gwylio drosot pan orffwysi,ac ymddiddan â thi pan gyfodi.
23. Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni,a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,
24. ac yn dy gadw rhag gwraig cymydoga rhag gweniaith y ddynes estron.
25. Paid â chwennych ei phrydferthwch,a phaid â gadael i'w chiledrychiad dy ddal;
26. oherwydd gellir cael putain am bris torth,ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach.
27. A all dyn gofleidio tân yn ei fynwesheb losgi ei ddillad?
28. A all dyn gerdded ar farworheb losgi ei draed?
29. Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog;ni all unrhyw un gyffwrdd â hi heb gosb.