Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 6:10-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,

11. a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.

12. Un dieflig, un drwg,sy'n taenu geiriau dichellgar,

13. yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.

14. Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,a chreu cynnen.

15. Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth;fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.

16. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,saith peth sy'n ffiaidd ganddo:

17. llygaid balch, tafod ffals,dwylo'n tywallt gwaed dieuog,

18. calon yn cynllunio oferedd,traed yn prysuro i wneud drwg,

19. gau dyst yn dweud celwydd,ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.

20. Fy mab, cadw orchymyn dy dad;paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;

21. clyma hwy'n wastad yn dy galon,rhwym hwy am dy wddf.

22. Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,a gwylio drosot pan orffwysi,ac ymddiddan â thi pan gyfodi.

23. Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni,a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 6