Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 31:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Y mae'n siarad yn ddoeth,a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.

27. Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,ac nid yw'n bwyta bara segurdod.

28. Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;a bydd ei gŵr yn ei chanmol:

29. “Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus,ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”

30. Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod,ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 31