21. Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.
22. Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun,ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.
23. Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.
24. Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.
25. Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd,ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.
26. Y mae'n siarad yn ddoeth,a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.
27. Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,ac nid yw'n bwyta bara segurdod.
28. Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;a bydd ei gŵr yn ei chanmol:
29. “Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus,ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”
30. Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod,ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.
31. Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo,a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.