Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 31:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth?Beth yw hyn, mab fy addunedau?

3. Paid â threulio dy nerth gyda merched,na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.

4. Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel,nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin,ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,

5. rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.

6. Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod,a gwin i'r chwerw ei ysbryd;

7. cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.

8. Dadlau o blaid y mud,a thros achos yr holl rai diobaith.

9. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.

10. Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.

11. Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,ac ni fydd pall ar ei henillion.

12. Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,a hynny ar hyd ei hoes.

13. Y mae'n ceisio gwlân a llin,ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 31