Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 31:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,ac yn plannu gwinllan â'i henillion.

17. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.

18. Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.

19. Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.

20. Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,a'i dwylo i'r tlawd.

21. Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.

22. Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun,ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.

23. Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.

24. Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 31