1. Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd;cadw fy ngorchmynion yn dy gof.
2. Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiaua rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
3. Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb;rhwym hwy am dy wddf,ysgrifenna hwy ar lech dy galon;
4. a byddi'n ennill ffafr ac enw dayng ngolwg Duw a dynion.
5. Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD,a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.
6. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd,bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
7. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun;ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.
8. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff,ac yn faeth i'th esgyrn.
9. Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.
10. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,a'th gafnau'n gorlifo gan win.
11. Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,a phaid â digio wrth ei gerydd;
12. oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,fel tad sy'n hoff o'i blentyn.
13. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.
14. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.
15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.