6. Rhwydir y drygionus gan gamwedd,ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.
7. Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion,ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
8. Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas,ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.
9. Os â un doeth i gyfraith â ffŵl,bydd y ffŵl yn cythruddo ac yn gwawdio,ac ni cheir llonyddwch.
10. Y mae rhai gwaedlyd yn casáu'r un cywir,ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.
11. Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig,ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.
12. Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,bydd ei holl weision yn ddrygionus.
13. Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.
14. Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,yna fe sefydlir ei orsedd am byth.
15. Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.
16. Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu,ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.
17. Disgybla dy fab, a daw â chysur iti,a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.
18. Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl;ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.
19. Nid â geiriau yn unig y disgyblir gwas;er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.
20. Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad;y mae mwy o obaith i'r ffŵl nag iddo ef.
21. Wrth faldodi gwas o'i lencyndod,bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd.
22. Codi cynnen y mae rhywun cas,ac un dicllon yn ychwanegu camwedd.
23. Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng,ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
24. Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu â lleidr;y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.
25. Magl yw ofni pobl,ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.