18. Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel,ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll.
19. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.
20. Caiff y ffyddlon lawer o fendithion,ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.
21. Nid yw'n iawn dangos ffafr,ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.
22. Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth;nid yw'n ystyried y daw arno angen.
23. Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diweddna'r un sy'n gwenieithio.
24. Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam,ac yn dweud nad yw'n drosedd,yn gymar i'r un sy'n dinistrio.
25. Y mae'r trachwantus yn creu cynnen,ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder.
26. Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd,ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
27. Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd,ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.
28. Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio,ond ar ôl eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.