Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 28:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr;ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.

13. Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.

14. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.

15. Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.

16. Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.

17. Y mae un sy'n euog o dywallt gwaedyn ffoi i gyfeiriad y pwll;peidied neb â'i atal.

18. Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel,ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll.

19. Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.

20. Caiff y ffyddlon lawer o fendithion,ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 28