Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 23:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd,na chwennych ei ddanteithion,

7. oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc;bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”,ond ni fydd yn meddwl hynny.

8. Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist,ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.

9. Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl,oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.

10. Paid â symud yr hen derfynau,na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid;

11. oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf,a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 23