Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 23:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid,ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;

18. os felly, bydd dyfodol iti,ac ni thorrir ymaith dy obaith.

19. Fy mab, gwrando a bydd ddoeth,a gosod dy feddwl ar y ffordd iawn.

20. Paid â chyfathrachu â'r rhai sy'n yfed gwin,nac ychwaith â'r rhai glwth;

21. oherwydd bydd y diotwr a'r glwth yn mynd yn dlawd,a bydd syrthni'n eu gwisgo mewn carpiau.

22. Gwrando ar dy dad, a'th genhedlodd,a phaid â dirmygu dy fam pan fydd yn hen.

23. Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu;pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 23