12. Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,a'th glust ar eiriau deall.
13. Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.
14. Os byddi'n ei guro â gwialen,byddi'n achub ei fywyd o Sheol.
15. Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth,bydd fy nghalon innau yn llawen.
16. Byddaf yn llawenhau drwof i gydpan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
17. Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid,ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;
18. os felly, bydd dyfodol iti,ac ni thorrir ymaith dy obaith.
19. Fy mab, gwrando a bydd ddoeth,a gosod dy feddwl ar y ffordd iawn.
20. Paid â chyfathrachu â'r rhai sy'n yfed gwin,nac ychwaith â'r rhai glwth;
21. oherwydd bydd y diotwr a'r glwth yn mynd yn dlawd,a bydd syrthni'n eu gwisgo mewn carpiau.
22. Gwrando ar dy dad, a'th genhedlodd,a phaid â dirmygu dy fam pan fydd yn hen.
23. Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu;pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.
24. Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn,a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.
25. Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd,ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.