Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid,a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.

9. Bendithir yr un haelam ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.

10. Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson,a diwedd ar ddadlau a gwawd.

11. Yr un sy'n hoffi purdeb meddwla geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.

12. Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall,ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.

13. Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan;fe'm lleddir yn y stryd.”

14. Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn;y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 22