Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg,nac aros yng nghwmni'r dicllon,

25. rhag iti ddysgu ei ffordd,a'th gael dy hun mewn magl.

26. Paid â rhoi gwystl,a mynd yn feichiau am ddyledion;

27. os na fydd gennyt ddim i dalu,oni chymerir dy wely oddi arnat?

28. Paid â symud yr hen derfynaua osodwyd gan dy hynafiaid.

29. Gwelaist un medrus yn ei waith;bydd yn gwasanaethu brenhinoedd,ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 22