Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall,ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.

13. Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan;fe'm lleddir yn y stryd.”

14. Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn;y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.

15. Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.

16. Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun,ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 22