Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 22:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer,a gwell yw parch nag arian ac aur.

2. Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd:yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.

3. Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

4. Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDDyw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5. Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.

6. Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith,ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.

7. Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.

8. Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid,a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.

9. Bendithir yr un haelam ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.

10. Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson,a diwedd ar ddadlau a gwawd.

11. Yr un sy'n hoffi purdeb meddwla geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 22