15. y rhai y mae eu ffordd yn gama'u llwybrau'n droellog.
16. Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr,a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17. sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid,ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18. Oherwydd y mae ei thÅ· yn gwyro at angau,a'i llwybrau at y cysgodion.
19. Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei ôl,ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20. Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da,a chadw at lwybrau'r cyfiawn.
21. Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir,a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;
22. ond torrir y rhai drwg o'r tir,a diwreiddir y twyllwyr ohono.