Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 17:18-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.

19. Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.

20. Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni,a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.

21. Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid,ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.

22. Y mae calon lawen yn rhoi iechyd,ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn.

23. Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwesi wyrdroi llwybrau barn.

24. Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb,ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn.

25. Y mae mab ynfyd yn flinder i'w dad,ac yn achos chwerwder i'w fam.

26. Yn wir nid da cosbi'r cyfiawn,ac nid iawn curo'r bonheddig.

27. Y mae'r prin ei eiriau yn meddu gwybodaeth,a thawel ei ysbryd yw'r deallus.

28. Tra tawa'r ffŵl, fe'i hystyrir yn ddoeth,a'r un sy'n cau ei geg yn ddeallus.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 17