Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 17:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwell yw tamaid sych, a llonyddwch gydag ef,na thŷ yn llawn o wleddoedd ynghyd â chynnen.

2. Y mae gwas deallus yn feistr ar fab gwarthus,ac yn rhannu'r etifeddiaeth gyda'r brodyr.

3. Y mae tawddlestr i arian a ffwrnais i aur,ond yr ARGLWYDD sy'n profi calonnau.

4. Y mae'r drwgweithredwr yn gwrando ar eiriau anwir,a'r celwyddog yn rhoi sylw i dafod maleisus.

5. Y mae'r un sy'n gwatwar y tlawd yn amharchu ei Greawdwr,ac ni chaiff y sawl sy'n ymhyfrydu mewn trychineb osgoi cosb.

6. Coron yr hen yw plant eu plant,a balchder plant yw eu rhieni.

7. Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn,nac ychwaith eiriau celwyddog i bendefig.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 17